Christiana Figueres | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 7 Awst 1956 ![]() San José, Costa Rica ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | diplomydd, economegydd, gwleidydd, ymgyrchydd hinsawdd, podcastiwr ![]() |
Swydd | Ysgrifennydd Gweithredol Ysgrifenyddiaeth UNFCCC ![]() |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Annibynnwr ![]() |
Tad | José Figueres Ferrer ![]() |
Mam | Karen Olsen Beck ![]() |
Gwobr/au | Uwch Groes Dosbarth 1af Urdd Teilyngdod Gwladwriaeth Ffederal yr Almaen, doctor honoris causa Prifysgol Concordia, honorary doctor of Georgetown University, Nature's 10, Gwobr Four Freedoms, Gwobr 100 Merch y BBC, Edinburgh Medal ![]() |
Gwefan | http://christianafigueres.com/#/ ![]() |
Mae Karen Christiana Figueres Olsen (ganwyd 7 Awst 1956) yn ddiplomydd o Costa Rica sydd wedi arwain trafodaethau polisiau ar newid hinsawdd yn genedlaethol, rhyngwladol ac yn amlochrog. Fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd Gweithredol Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (UNFCCC) yng Ngorffennaf 2010,[1][2] chwe mis ar ôl methiant y COP15 yn Copenhagen.[3] Yn ystod y chwe blynedd dilynol bu’n gweithio i ailadeiladu’r broses drafod newid hinsawdd fyd-eang yn hynod o lwyddiannus,[4] gan arwain at Gytundeb Paris 2015, a gydnabyddir yn eang fel cyflawniad hanesyddol.[5]
Dros y blynyddoedd mae Figueres wedi gweithio ym meysydd newid hinsawdd, datblygu cynaliadwy, ynni, defnyddio tir, a chydweithrediad technegol ac ariannol. Yn 2016, hi oedd ymgeisydd Costa Rican ar gyfer Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig[6] ond penderfynodd dynnu'n ôl pan na chafodd fawr o gefnogaeth.[7] Mae hi'n un o sylfaenwyr y grŵp Global Optimism[8] a gyd-awdurodd â Tom Rivett-Carnac o The Future We Choose: Surviving the Climate Crisis[9] (2020), ac yn gyd-westeiwr y podlediad poblogaidd Outrage and Optimism.[10]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search